Gwaith Coed - Ei wneud eich hun

L1 Lefel 1
Rhan Amser
9 Medi 2024 — 22 Tachwedd 2024
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi chi i ennill sgiliau sylfaenol mewn gwaith coed. Mae'r cwrs hwn wedi'i dargedu'n benodol at ddysgwyr sydd ag ychydig o brofiad neu ddim profiad o gwbl.
Byddwch yn dilyn rhaglen astudio a fydd yn rhoi cyfle i chi gymhwyso dysgu mewn modd ymarferol a realistig, ac ennill hyder drwy ddatblygu sgiliau dysgu annibynnol.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Rhannau allweddol y cwrs hwn yw; iechyd a diogelwch, defnyddio a storio adnoddau, byddwch yn cynhyrchu uniadau sylfaenol gwaith coed, cynnal a defnyddio offer llaw gwaith coed a saernïaeth a pharatoi a defnyddio offer pŵer cludadwy. Byddwch yn dysgu'r sgiliau ymarferol ac yn ennill gwybodaeth a dealltwriaeth ddamcaniaethol o'r grefft hon, bydd yn eich galluogi chi i gael y sgiliau i fynd ar y llwybrau dilyniant ar lefelau crefft benodol.

Yn ogystal, mae'n ofynnol i ddysgwyr gael eu hesgidiau diogelwch eu hunain cyn dechrau'r cwrs. Gellir prynu'r esgidiau gan unrhyw fanwerthwr.

Gofynion mynediad

Nid oes angen profiad mewn adeiladwaith, byddwn yn mesur eich brwdfrydedd ac ymrwymiad yn ystod y cyfweliad

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cod y cwrs

Cymhwyster

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

£30,000

Yn ôl data Lightcast 2022, mae disgwyl i’r sector adeiladu dyfu 9.1% ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd rhwng 2022-2026, gyda chyflog cyfartalog o dros £30,000 y flwyddyn.

Mae'r cwrs hwn yn eich galluogi chi i fynd ymlaen i gyrsiau pellach a chyflogaeth yn y diwydiant adeiladu.
Dilyniant posibl o'r cwrs hwn fydd mynd ymlaen i raglenni llawn amser prif ffrwd neu brentisiaeth.