Therapïau Cyflenwol

L3 Lefel 3
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae ein Diploma Lefel 3 VTCT mewn Therapiau Cyflenwol yn gymhwyster galwedigaethol sy’n rhoi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau i ddysgwyr weithio fel therapydd cyflenwol cyflogedig a/neu hunangyflogedig. Mae dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn yn gymwys i gofrestru gyda’r Cyngor Gofal Iechyd Cyflenwol a Naturiol (CNHC), sef y rheolydd gwirfoddol a gefnogir gan y llywodraeth ar gyfer y sector. Mae cofrestriad CNHC yn orfodol i bob therapydd cyflenwol sy’n gweithio yn y GIG.

Bydd yn ofynnol i'r holl ddysgwyr wisgo Cyfarpar Diogelu Personol bob amser yn y salonau a'r clinig. Rhaid gwisgo gwisg lawn, a bydd yn rhaid i'r dysgwr ei phrynu. Mae hyn yn cynnwys tiwnig, trywsus ac esgidiau gwastad caeedig.

Darperir y canlynol gan y coleg:

  • Gorchudd Wyneb

  • Feisor

  • Ffedogau Plastig

  • Menig Llawfeddygol

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys aromatherapi, tylino, adweitheg, egwyddorion busnes, egwyddorion ac ymarfer therapïau cyflenwol gan gynnwys iechyd a diogelwch ac anatomeg, ffisioleg a phatholeg. Bydd myfyrwyr yn cael eu goruchwylio gan staff a’u hasesu ar eu cymhwysedd yn ddamcaniaethol ac yn ymarferol.  Byddant hefyd yn cael eu hasesu trwy nifer o ddulliau sy’n cynnwys asesu parhaus, cymhwysedd ymarferol, astudiaethau achos, E-bortffolio, arholiadau allanol a phortffolio sgiliau allweddol. Mae'r meysydd ychwanegol yr ymdrinnir â nhw yn cynnwys: EDI, Cymraeg, Sgiliau Allweddol mewn Llythrennedd Digidol a Chyflogadwyedd.Bydd gan ddysgwyr y cyfle i weithio o fewn amgylchedd masnachol prysur er mwyn datblygu eu sgiliau a’u cymhwysedd galwedigaethol.

Mae ffioedd ychwanegol yn cynnwys: £30,000 ffi Salon yn ogystal â Chit a Gwisg - i’w cadarnhau

Gofynion mynediad

Isafswm o 3 TGAU Graddau A i D gan gynnwys Saesneg neu gymhwyster Lefel 2 neu gyfatebol. Mynediad drwy gyfweliad. Sylwer: bydd rhaid i ni weld canlyniadau eich cymwysterau a'ch tystysgrifau cyn bod modd i chi gofrestru. 1 geirda (os ydych chi'n gadael yr ysgol neu'n fyfyriwr ar hyn o bryd, mae angen geirda gan diwtor y cwrs).

Addysgu ac Asesu

  • Asesiad parhaus gan gynnwys asesiadau ymarferol ac arholiadau

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cod y cwrs

Cymhwyster

Mwy

Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

"Rwy’n mwynhau fy nghwrs oherwydd mae’n cymryd lle mewn salon byd go iawn ac rwy’n cael profiad gwaith gyda ddigon o gyfleusterau.”

Freya Rees
Cyn-fyfyriwr Harddwch lefel 2 a 3

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

£7.7billion

Mae’r diwydiant yn cynhyrchu bron i £7.7 biliwn i Economi’r DU. NHF (2018).

Mae cyfleoedd gyrfa fel therapydd cyfannol ar gael mewn sawl cyd-destun, gan gynnwys salonau harddwch, spa, hunangyflogedig, llongau mordeithio a chartrefi gofal. Er mai nod pennaf y cymhwyster yw paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth fel therapydd cyfannol, gall dysgwyr ddewis symud ymlaen i’n HND mewn Gofal Iechyd Cyfannol.