Cyflwyniad i Sgiliau Allweddol TG ac Excel

EL3 Lefel Mynediad 3
Rhan Amser
12 Mai 2025 — 17 Gorffennaf 2025
Lleoliad Cymunedol
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Rhowch hwb i'ch Hyder Digidol gyda'n cwrs Cyflwyniad i Sgiliau Hanfodol TG ac Excel.

Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio i’ch helpu i deimlo’n hyderus gydag adnoddau digidol bob dydd. P’un a ydych eisiau creu taenlenni syml, cadw trefn ar gyllideb eich teulu, neu’n syml, ymgyfarwyddo â sgiliau digidol bywyd real, mae’r cwrs ymarferol hwn yn fan cychwyn perffaith.

Os oes gennych gwestiynau, anfonwch e-bost i: community@cavc.ac.uk

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Hyblyg i Fodloni Eich Anghenion: Mae'r cwrs wedi’i deilwra ar gyfer anghenion y grŵp, gan sicrhau bod pawb yn gallu dysgu ar eu liwt eu hunain a chanolbwyntio ar y meysydd fwyaf perthnasol iddynt hwy. Byddwn yn cynnwys sgiliau allweddol TG a hanfodion Excel, gan ddarparu profiad ymarferol a chefnogaeth bersonol i hybu eich hyder digidol.

Cyfleusterau

Bydd y cwrs hwn yn rhedeg yn Neuadd Llanrhymnu (i bobl sy'n dechrau ar 8fed Mai 2025) a Chanolfan Treftadaeth CAER (i bobl sy'n dechrau at 12fed Mai 2025).

Gallwch gyrraedd Neuadd Llanrhymnu ar Fws 49 ac 102. Mae parcio ar gael yno hefyd.

Gallwch gyrraedd Canolfan Treftadaeth CAER ar Fws 15, 17 ac 18. Mae bysiau yn rhedeg bob 5-10 munud.

Dulliau addysgu ac asesu

· Cymhwyso sgiliau’n ymarferol

· Trafodaethau

Gofynion mynediad

Oedolion 18+ oed

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

12 Mai 2025

Dyddiad gorffen

17 Gorffennaf 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Lleoliad Cymunedol
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

LNKS31P10
EL3

Cymhwyster

Family Learning KS3

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Dilyniant i astudiaeth bellach yn CCAF.

Lleoliadau

Lleoliad Cymunedol
Lleoliad Cymunedol

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau mewn Lleoliadau Cymunedol yng Nghaerdydd a’r Fro. Pan fyddwch yn gwneud cais am y cwrs byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am leoliad eich cwrs.