Rhoi Hwb i’ch Hyder Dysgu - Cyflwyniad i'ch ymennydd
Mae’r cwrs hwn i bobl sy’n newydd i’r profiad dysgu neu sy’n dychwelyd ato ar ôl peth amser. Mae’n berffaith os ydych chi’n chwilfrydig ynghylch gwyddoniaeth ac yn dymuno ystyried eich opsiynau. Nid oes angen profiad blaenorol arnoch, dim ond diddordeb mewn darganfod sut mae’r ymennydd yn gweithio a sut mae’n cysylltu â bywyd dydd i ddydd.
Hyblyg i Fodloni Eich Anghenion: Mae’r cwrs wedi ei deilwra i anghenion y grŵp, gan sicrhau y gall pawb ddysgu ar ei gyflymder ei hun.
Mae’r cwrs hwn yn eich cyflwyno chi i’r ymennydd a sut mae’n gweithio. Byddwn yn edrych ar Seicoleg a Niwrowyddoniaeth, gan ddechrau gyda chelloedd bach yr ymennydd ac yna gweithio’n ffordd at strwythurau mwy. Byddwch yn dysgu sut mae gweithredoedd bach yn yr ymennydd yn arwain at ganlyniadau ac ymddygiad mawr.
Mae’r cwrs wedi ei ddylunio i oedolion sydd eisiau datblygu hyder mewn dysg. Cewch ddatblygu sgiliau fel:
Daw’r cwrs hwn â meysydd gwyddoniaeth gwahanol ynghyd, dyna sy’n ei wneud yn unigryw. Cewch ddysgu am:
Byddwn yn trafod eich camau nesaf mewn dysg.
Os oes gennych gwestiynau, anfonwch e-bost at: community@cavc.ac.uk
Cais, Cyfweliad ac asesiad.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Ymlaen i astudiaeth bellach yn CCAF.