Harddwch a Therapi Sba

L2 Lefel 2
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae ein Diploma NVQ Lefel 2 VTCT mewn Therapi Harddwch Cyffredinol (QCF) wedi'i dargedu at y dysgwyr hynny sy'n awyddus i weithio a datblygu eu sgiliau mewn amgylchedd masnachol. Dim ond y colegau hynny sydd â salon neu fynediad at salon 'go iawn', yn hytrach nag amgylchedd gweithio realistig, sy’n cael darparu'r cymhwyster hwn, ac mae’n rhaid iddi gynnwys yr holl elfennau er mwyn gweithio'n effeithiol fel Therapydd Harddwch, gan gynnwys: 

Wynebau

Mireinio aeliau a blew amrannau – siapio aeliau a lliwio aeliau/blew amrannau

Gwasanaethau wacsio

Triniaeth Dwylo

Triniaeth y traed Colur

Effeithiolrwydd yn y gwaith

Iechyd a diogelwch

Hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau ychwanegol i gleientiaid

Cynorthwyydd sba; bydd y therapyddion yn y cymhwyster hwn yn cynorthwyo yn y Sba fel rhan o'u cwrs, bydd disgwyl iddynt baratoi, gwirio a chynnal cyflwr cyffredinol ac ymddangosiad ystod eang o wasanaethau sba.

Anatomeg a Ffisioleg

Unedau opsiynol ar gael; Codi eiliau, Ewinedd gel, Lliw haul chwistrell, Colur.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys yr holl elfennau angenrheidiol i weithio'n effeithiol fel Therapydd Harddwch; Iechyd a Diogelwch Salon. Ymgynghori â chleientiaid.   Triniaeth wyneb presgripsiwn.    Lliwio aeliau a blew amrannau.   Gosod a thynnu blew amrannau ffug. Colur ar gyfer y dydd, gyda’r nos ac achlysuron arbennig. Trin Dwylo a Thrin Traed Technegau wacsio.  Paratoi ar gyfer triniaethau a chynorthwyo yn y Sba.

Anatomi a ffisioleg.

Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ymgymryd â phrofiad gwaith mewn Salon/Sba weithredol a phrysur er mwyn cyfoethogi eu sgiliau.  Mae hyn yn ofynnol ar gyfer y cwrs llawn amser. Bydd hyn yn cynnwys rhai dyddiau Sadwrn a nosweithiau.

Bydd costau ychwanegol yn cynnwys cit a gwisg – i’w gadarnhau wrth ymrestru.

Gofynion mynediad

3 TGAU Graddau A * - D gan gynnwys Iaith Saesneg (neu gyfwerth). Adroddiad ysgol diweddar. NEU Cyfeirnod cymeriad boddhaol neu gyfeirnod gan gyflogwr diweddar. NEU Cyfeirnod boddhaol gan y coleg i nodi ymddygiad da, presenoldeb a chynnydd NEU ddysgu blaenorol a phrofiad gwaith.

Addysgu ac Asesu

  • Aseiniadau, Taflenni Gwaith ac arholiadau cwestiynau amlddewis ar-lein. Asesiadau ymarferol ar gleientiaid.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cod y cwrs

Cymhwyster

Mwy

Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

"Rwy’n mwynhau fy nghwrs oherwydd mae’n cymryd lle mewn salon byd go iawn ac rwy’n cael profiad gwaith gyda ddigon o gyfleusterau.”

Freya Rees
Cyn-fyfyriwr Harddwch lefel 2 a 3

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

£7.7billion

Mae’r diwydiant yn cynhyrchu bron i £7.7 biliwn i Economi’r DU. NHF (2018).
  • Therapi Harddwch Lefel 3
  • Therapïau Cyflenwol Lefel 3
  • Cymhwyster Trin Gwallt Lefel 2
  • Cyrsiau Rhan-amser gyda ffi