Mae'r cwrs hwn yn gam cymorth delfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n ceisio gwella eu sgiliau trwsio, cynnal a chadw cerbydau, neu'n gam cymorth delfrydol i'r rheini sy'n awyddus i ddatblygu i'r sector atgyweirio ac adfer cerbydau mawr.
Bydd yr holl ddysgwyr yn datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau yn y tair uned ganlynol:
Cyflwyniad i'r diwydiant manwerthu, trwsio cynnal a chadw moduron.
Ffi Arholiad : £96.00
Ffi Cofrestru: £45.00
Rhaid i fyfyrwyr addas feddu ar 4 TGAU Gradd A* - E yn cynnwys Mathemateg A* - E (neu gyfwerth) a Saesneg A* - E (neu gyfwerth). Fel opsiwn amgen, rhaid i ymgeiswyr feddu ar ryw ffurf wybodaeth berthnasol i’r diwydiant. Mae angen Cyfarpar Diogelu Personol ar gyfer y cwrs hwn, mae esgidiau blaen dur yn hanfodol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Nid oeddwn yn mwynhau rhyw lawer ar amgylchedd yr ystafell ddosbarth yn yr ysgol felly penderfynais wneud cwrs mwy ymarferol. Gwelais fod y staff yn eich trin chi fel oedolyn yma. Dechreuais y cwrs Atgyweirio ac Ailorffen Cerbydau Lefel 1, cyn symud ymlaen i Lefel 2 ac yna ar Brentisiaeth Lefel 3. Mae’r cyfleusterau’n wych yn y Coleg. Mae’r holl offer priodol ar gael yno ac mae’r staff yn wybodus iawn. Bu fy nhiwtoriaid yn gefn i mi ar hyd y ffordd – rhoeson nhw fi mewn cysylltiad â chyflogwyr lleol hyd yn oed, a’m helpu i gael ychydig o brofiad gwaith.
Rwyf wedi dysgu cymaint ac wedi magu cryn dipyn o hyder. Bûm yn cystadlu yn WorldSkills eleni a deuthum yn ail drwy Gymru mewn Ailorffen Cerbydau. Byddaf yn cystadlu yn Rowndiau Terfynol y DU nesaf – rwy’n edrych ymlaen cymaint! Teimlaf fy mod wedi gwneud cymaint o gynnydd ers i mi ddechrau yn y Coleg, ac rwy’n gwybod y gallaf gael gyrfa wych a hyd yn oed busnes fy hun o bosib rhyw ddydd os byddaf yn parhau i wneud fy ngorau glas yn yr hyn rwy’n ei wneud.