Mynediad i Nyrsio a Bydwreigiaeth

L3 Lefel 3
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 13 Mehefin 2025
Campws y Barri
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.

Ynglŷn â'r cwrs

Mae ein cwrs Mynediad i Nyrsio a Bydwreigiaeth yn berffaith i’r rheiny sy’n awyddus i ddilyn gyrfa mewn nyrsio. Mae’r rhaglen hon yn dechrau ym mis Ionawr. Fe’i cynlluniwyd i roi’r sgiliau a’r wybodaeth y mae dysgwyr eu hangen i fynd ymlaen i addysg uwch. Dyma gwrs dwys felly rhaid i'r ymgeiswyr fod yn sicr eu bod yn barod ar gyfer gofynion academaidd a baich gwaith y rhaglen. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd y disgyblion yn ennill y cymhwyster Diploma Mynediad at AU. Dyma gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol sy'n cael ei dderbyn ar gyfer mynediad i gyrsiau Addysg Uwch. Sylwer: Dylai’r dysgwyr sy’n astudio cyrsiau Gofal Plant neu Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod yn ymwybodol bod y rhaglen yn gofyn i’r holl ddysgwyr sy’n gweithio gyda Phlant neu mewn Lleoliad Gofal gael archwiliad datgeliad manwl llawn (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd).

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae Bioleg Ddynol, Astudiaethau Gofal a Gwyddorau Cymdeithasol yn cael sylw fel pynciau mawr ar y cwrs hwn. Hefyd bydd yn ofynnol i chi astudio Rhifedd, Cyfathrebu a Sgiliau Astudio fel pynciau craidd gorfodol. Cynhelir tiwtorials personol wythnosol i gefnogi myfyrwyr drwy eu hastudiaethau.

Sylwer bod rhai llwybrau gradd angen cymwysterau ychwanegol (e.e. TGAU Mathemateg/Saesneg Gradd B), a hefyd y cymhwyster Diploma Mynediad i AU. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru i’r ddarpariaeth briodol yn seiliedig ar eich llwybr gadael arfaethedig – mae posib trafod hyn gyda ni yn ystod eich cyfweliad os ydych yn dymuno.

Os nad oes gennych chi’r cymwysterau TGAU eisoes a bod angen y rhain ar gyfer y cwrs prifysgol rydych chi’n ei ffafrio, efallai y byddech yn hoffi ystyried ein cwrs cyn-Mynediad – Sylfaen Oedolion. Mae’r cwrs hwn ar gyfer y rhai sydd â phrofiad bywyd ac nid yw’n addas mewn gwirionedd ar gyfer ymgeiswyr iau nag 19 oed.                                                                             

Gofynion mynediad

Mae TGAU Saesneg Iaith A\* - C yn hanfodol a rhaid darparu tystiolaeth cyn cofrestru. Cyfweliad a chanlyniad asesiad llwyddiannus - Lefel 1 mewn Mathemateg a Lefel 2 mewn Saesneg. Rhaid i ddysgwyr fod wedi gadael addysg lawn amser am dair blynedd cyn astudio'r cwrs hwn. DS: Mae gofyn i ddarpar ddysgwyr, sy'n Saesneg ail iaith, arddangos Sgôr IELTS o 6 (System Brofi Ryngwladol ar gyfer yr Iaith Saesneg) mewn Saesneg llafar ac ysgrifenedig yn ystod y broses ymgeisio.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cod y cwrs

Cymhwyster

Mwy

Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Roedd y cyrsiau'n berffaith ar gyfer mynd i'r brifysgol...dosbarthiadau bach, cefnogaeth wirioneddol wych ac amgylchedd gwych i allu dysgu ynddo.

Ceri-Ann Jones-Mathias
Wedi astudio Sylfaen a Mynediad Oedolion. Nawr yn astudio Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau Gofal yn CAVC.
Cyn-fyfyriwr Mynediad i Wyddorau Iechyd

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

Gall dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn fynd ymlaen i astudio gradd mewn nyrsio neu fydwreigiaeth yn y brifysgol o’u dewis. Mae gan Goleg Caerdydd a’r Fro gysylltiad â Phrifysgol De Cymru (PDC) ac mae’n falch o gyhoeddi bod PDC yn cynnig cyfweliad gwarantedig ar gyfer y cwrs nyrsio yn y brifysgol i ddysgwyr sydd wedi cofrestru ar ein cwrs Mynediad i Nyrsio.