Tystysgrif Sylfaen AAT mewn Cyfrifeg

L2 Lefel 2
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws y Barri
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.

Ynglŷn â'r cwrs

Mae Tystysgrif yr AAT mewn Cyfrifeg yn ymdrin ag ystod o sgiliau cyfrifeg a chyllid sylfaenol mewn pum uned orfodol (240 o oriau dysgu dan arweiniad). Diben y cymhwyster hwn yw sicrhau bod myfyrwyr wedi'u paratoi'n dda i fynd ymlaen i yrfa mewn busnes, cyllid neu gyfrifeg broffesiynol neu addysg bellach.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Cyflwyniad i Gadw Cyfrifon


Mae’r uned hon yn meithrin dealltwriaeth myfyrwyr o systemau cadw cyfrifon â llaw a digidol, yn cynnwys y dogfennau a’r prosesau cysylltiedig. Bydd myfyrwyr yn dysgu am yr egwyddorion sylfaenol sy’n sail i’r system cadw cyfrifon cofnod dwbl, a bod systemau cyfrifeg digidol yn awtomeiddio rhai camau o fewn y broses.


Egwyddorion Rheolaethau Cadw Cyfrifon


Mae’r uned hon yn adeiladu ar y wybodaeth a’r sgiliau a gafwyd o astudio Cyflwyniad i Gadw Cyfrifon, ac mae’n edrych ar gyfrifon rheoli, cyfnodolion a chysoniadau. Bydd myfyrwyr yn edrych ar nifer o brosesau a ddefnyddir ym maes cadw cyfrifon sy’n helpu i wirio a dilysu’r cofnodion a wneir. Mae’r prosesau hyn yn galluogi myfyrwyr i ddeall pwrpas cyfrifon rheoli a chysoniadau cysylltiedig. Bydd myfyrwyr hefyd yn deall pam y defnyddir y cyfnodolyn wrth ailddrafftio’r balans prawf, ar ôl gwneud addasiadau dechreuol.


Egwyddorion Prisio


O fewn yr uned hon, bydd myfyrwyr yn cael cyflwyniad i egwyddorion prisio sylfaenol, ac adeiladir sylfaen gadarn o ran y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer prisio mwy cymhleth a chyfrifeg rheoli. Bydd myfyrwyr yn dysgu am bwysigrwydd y system brisio fel ffynhonnell wybodaeth sy’n galluogi timau rheoli i gynllunio, gwneud penderfyniadau a rheoli costau. Dylai myfyrwyr ddeall y gwahaniaethau allweddol, o safbwynt busnes, rhwng prisio a chyfrifeg rheoli.


Yr Amgylchedd Busnes


Mae’r amgylchedd busnes yn ddynamig iawn, ac yn newid yn sylweddol wrth i’r oes ddigidol ddatblygu er mwyn hwyluso natur fyd-eang y maes busnes. Mae’n hollbwysig fod myfyrwyr yn ymwybodol o’r effaith sydd gan yr amgylchedd hwn ar sefydliadau, o unig fasnachwyr i gwmnïau mawr mewn marchnadoedd lleol, cenedlaethol a byd-eang, a’u bod nhw’n meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau i weithio’n effeithiol.

Gofynion mynediad

4 TGAU gradd A*- C gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith neu L2 ESOL neu IELTS 6.5. Bydd angen i chi fynychu cyfweliad a gwneud asesiad sgiliau. Bydd dysgwyr aeddfed yn cael eu hasesu ar Iaith Saesneg a Mathemateg mewn cyfweliad. Cwblhau ESOL Lefel 2 a mwy yn llwyddiannus gyda Dyfarniad Lefel 1 AAT mewn Cadw Cyfrifon. Mae ffi aelodaeth AAT o tua £185 y mae angen ei dalu'n uniongyrchol i AAT.

Addysgu ac Asesu

Mae'r asesiadau addysgu ar gyfer y cwrs hwn yn cynnwys pedwar asesiad ar gyfrifiadur.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cod y cwrs

Cymhwyster

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Pan ddes i'n ôl i addysg roeddwn i'n gwybod mai dyma'r lle i fynd. Mae Moodle yn wych ac mae llawer o ddeunydd arno, mae tiwtoriaid yn ymateb yn gyflym i unrhyw gwestiynau sydd gennym.

Breeze Thompson
Myfyriwr Cyfrifo AAT