Tystysgrif Sylfaen AAT mewn Cyfrifeg

L2 Lefel 2
Rhan Amser
9 Medi 2024 — 13 Mehefin 2025
Campws y Barri
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynglŷn â'r cwrs

Mae ein cwrs Tystysgrif AAT mewn Cyfrifeg yn berffaith ar gyfer yr unigolion hynny sy’n awyddus i wella eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o gyfrifeg. Gan astudio yn ystafelloedd dosbarth a chyfleusterau pwrpasol y coleg, mae’r cymhwyster hwn yn ymdrin ag ystod o sgiliau cyfrifeg a chyllid sylfaenol mewn pum uned orfodol (240 o oriau dysgu dan arweiniad), a’i bwrpas yw sicrhau bod myfyrwyr wedi’u paratoi’n dda i symud ymlaen i yrfa ym maes busnes, cyllid neu gyfrifeg proffesiynol, neu i addysg bellach.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae pob uned o yn y cymhwyster hwn yn hanfodol - asesir pedair uned yn unigol yn ystod yr asesiadau diwedd uned. Mae’r cymhwyster hefyd yn cynnwys asesiad synoptig, tua diwedd y cwrs, sy’n defnyddio ac yn asesu gwybodaeth a dealltwriaeth o bob rhan o'r maes:


Cadw Cyfrifon Uwch - asesiad diwedd uned
Paratoi Cyfrifon Terfynol - asesiad diwedd uned
Cyfrifeg Rheoli: Prisio - asesiad diwedd uned
Treth Anuniongyrchol - asesiad diwedd uned
Moeseg i gyfrifwyr - yn cael ei asesu o fewn yr asesiad synoptig
Taenlenni ar gyfer Cyfrifeg - yn cael ei asesu o fewn yr asesiad synoptig.
Bydd disgyblion sy’n cwblhau’r cymhwyster hwn yn datblygu sgiliau cyfrifeg mewn cadw cyfrifon cofnod dwbl a phrisio sylfaenol, yn ogystal â dealltwriaeth o brynu, gwerthu a chyfriflyfrau cyffredinol. Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i ddefnyddio meddalwedd cyfrifeg a datblygu'r sgiliau ac ymddygiadau proffesiynol sydd eu hangen i gyfrannu'n effeithiol yn y gweithle. Mae gweithio ym maes cyfrifeg yn gofyn am sgiliau cyfathrebu da, sgiliau TG a dealltwriaeth o’r amgylchedd busnes, ac mae pob un ohonynt wedi’u cynnwys yn y cymhwyster.


Mae hwn yn gwrs galwedigaethol ac ymarferol a byddwch yn dysgu sgiliau hanfodol sy’n berthnasol i amgylchedd cyfrifeg. Darperir darlithoedd ar gyfer pob uned, a chynigir cymorth tiwtorial hefyd. I astudio cwrs AAT, mae angen i chi ymuno â'r AAT fel aelod myfyriwr, yn ogystal â chofrestru yn y coleg. Mae'r AAT yn cynnig ystod o fuddion i aelodau myfyrwyr, gan gynnwys cefnogaeth, cymorth i ddod o hyd i swydd a phrisiau gostyngol arbennig.


Rhaid i ddysgwyr gwblhau pedair asesiad uned ac un asesiad synoptig yn llwyddiannus i gyflawni’r cymhwyster hwn. Cyfran y cymhwyster hwn a asesir drwy asesiad allanol yw 100%.


Mae’r holl asesiadau yn y cymhwyster hwn:


Yn cael eu gosod a'u marcio gan AAT (gyda’r eithriad o RPL, sy’n cael ei farcio gan y darparwr hyfforddiant)
Yn cael eu cwblhau ar gyfrifiadur
Yn asesiadau â chyfyngiad amser.
Yn cael eu hamserlennu gan ddarparwr hyfforddiant neu leoliad asesu
Yn cael eu cynnal mewn canolfannau a lleoliadau cymeradwy dan amodau rheoledig
I ennill y cymhwyster ac i gael gradd, rhaid i fyfyrwyr lwyddo yn yr holl asesiadau uned gorfodol a’r asesiad synoptig.


Ni ddyfernir graddau yn unigol i asesiadau uned ac asesiadau synoptig, ond mae’r marciau a enillir ym mhob asesiad yn cyfrannu at radd gyffredinol y myfyriwr ar gyfer y cymhwyster.

*Ffioedd cofrestru dysgwyr i’w talu’n uniongyrchol i’r AAT, yn ychwanegol at y Ffioedd Cwrs. Mae’r rhain yn amodol ar newid gan yr AAT ym mis Awst


Ffioedd Cofrestru 2023/24 

Tystysgrif Lefel 2 mewn Cyfrifyddu = £175

Gofynion mynediad

4 TGAU gradd A*- C neu L2 ESOL neu IELTS 6.5. Bydd angen i chi fynychu cyfweliad ac ymgymryd ag asesiad sgiliau. Bydd dysgwyr aeddfed yn cael asesiad Iaith Saesneg a Mathemateg.

Addysgu ac Asesu

  • Asesiadau
     

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cod y cwrs

Cymhwyster

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Pan ddes i'n ôl i addysg roeddwn i'n gwybod mai dyma'r lle i fynd. Mae Moodle yn wych ac mae llawer o ddeunydd arno, mae tiwtoriaid yn ymateb yn gyflym i unrhyw gwestiynau sydd gennym.

Breeze Thompson
Myfyriwr Cyfrifo AAT

Pam CAVC?

Un o'r colegau mwyaf yn y wlad gyda mwy na 30,000 o bobl yn dysgu gyda ni bob blwyddyn.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.