Diploma Uwch AAT mewn Cyfrifyddu

L3 Lefel 3
Rhan Amser
9 Medi 2024 — 13 Mehefin 2025
Campws y Barri
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynglŷn â'r cwrs

Mae ein Uwch Ddiploma AAT mewn Cyfrifeg yn berffaith ar gyfer yr unigolion hynny sy'n awyddus i wella eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o gyfrifeg. Mae'r rhaglen hon yn ymdrin ag ystod o dasgau cyfrifeg cymhleth, gan gynnwys cynnal cofnodion cyfrifeg cost a pharatoi adroddiadau ac enillion. Gan astudio yn ystafelloedd dosbarth a chyfleusterau pwrpasol y coleg, bydd myfyrwyr yn dysgu ac yn meistroli nifer o brosesau ariannol gan gynnwys:

  • Egwyddorion a Chysyniadau Cyfrifeg
  • Cadw Cofnodion Uwch
  • Cyfrifon Terfynol
  • Materion TAW mewn Busnes
  • Technegau Costio Cyfrifeg Rheolaeth
  • Ymarferion Moesegol i Gyfrifwyr

Mae'r cymhwyster hwn hefyd yn datblygu sgiliau meddalwedd trwy hyfforddiant taenlenni ar gyfer cyfrifeg. Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys chwe uned orfodol (390 o oriau dysgu dan arweiniad), a'i ddiben yw sicrhau bod myfyrwyr wedi'u paratoi yn llawn i fynd ymlaen i yrfa fusnes, cyllid neu gyfrifeg broffesiynol neu addysg bellach.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae'r holl unedau yn y cymhwyster hwn yn orfodol - asesir pedair uned ar wahân yn yr asesiadau diwedd uned. Mae'r cymhwyster hwn hefyd yn cynnwys asesiad synoptig, a sefir tuag at ddiwedd y cwrs, sy'n tynnu ar wybodaeth a dealltwriaeth ar draws y maes a'u hasesu:

  • Cadw Cyfrifon Uwch - asesiad diwedd yr uned
  • Paratoi Cyfrifon Terfynol - asesiad diwedd yr uned
  • Cyfrifyddu Rheoli: Costiad - asesiad diwedd yr uned
  • Treth Anuniongyrchol - asesiad diwedd yr uned
  • Moeseg i gyfrifwyr - a asesir o fewn yr asesiad synoptig
  • Taenlenni i Gyfrifwyr - a asesir o fewn yr asesiad synoptig

Rhaid i fyfyrwyr gwblhau asesiadau pedair uned ac un asesiad synoptig yn llwyddiannus i gyflawni'r cymhwyster hwn. Cyfran y cymhwyster hwn a asesir drwy asesiad allanol yw 100%.

Mae'r holl asesiadau yn y cymhwyster hwn:

  • Wedi'u gosod a'u marcio gan AAT (ac eithrio RPL, sy'n cael ei farcio gan y darparwr hyfforddiant)
  • Wedi'u seilio ar y cyfrifiadur
  • Â chyfyngiad amser
  • Yn cael eu trefnu gan ddarparwyr hyfforddiant neu leoliadau asesu
  • Yn cael eu cynnal mewn canolfannau a lleoliadau cymeradwy dan amgylchiadau sy'n cael eu rheoli.

I gyflawni'r cymhwyster hwn ac i gael ei d/ddyfarnu â gradd, rhaid i fyfyriwr lwyddo yn yr holl asesiadau hanfodol a'r asesiad synoptig.

Nid yw asesiadau unedau a synoptig yn cael eu dyfarnu â graddau yn unigol, ond mae'r holl farciau a gyflawnir ym mhob asesiad yn cyfrannu at radd gyffredinol myfyriwr ar gyfer y cymhwyster.

*Ffioedd cofrestru dysgwyr i’w talu’n uniongyrchol i’r AAT, yn ychwanegol at y Ffioedd Cwrs. Mae’r rhain yn amodol ar newid gan yr AAT ym mis Awst


Ffioedd Cofrestru 2023/24 

Diploma Lefel 3 mewn Cyfrifyddu = £228

Gofynion mynediad

Cwblhau AAT Lefel 2 gyda phrofiad masnachol yn llwyddiannus. Bydd rhaid i chi fynychu cyfweliad a llwyddo mewn Asesiad Sgiliau AAT.

Addysgu ac Asesu

  • Asesiadau

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cod y cwrs

Cymhwyster

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Pan ddes i'n ôl i addysg roeddwn i'n gwybod mai dyma'r lle i fynd. Mae Moodle yn wych ac mae llawer o ddeunydd arno, mae tiwtoriaid yn ymateb yn gyflym i unrhyw gwestiynau sydd gennym.

Breeze Thompson
Myfyriwr Cyfrifo AAT

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, gall ymgeiswyr llwyddiannus symud ymlaen i raglen Diploma Cyfrifeg AAT Lefel 4 yn y coleg, a gallant symud ymlaen i gyfrifeg siartredig ohono. Bydd llawer o fyfyrwyr hefyd yn dilyn cyfleoedd cyflogaeth amrywiol yn y diwydiant. 

Pam CAVC?

Un o'r colegau mwyaf yn y wlad gyda mwy na 30,000 o bobl yn dysgu gyda ni bob blwyddyn.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.