Celf a Dylunio

L3 Lefel 3
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws y Barri

Ynglŷn â'r cwrs

Mae'r Diploma Lefel 3 mewn Celf a Dylunio yn gwrs cyffrous ac arloesol sy'n archwilio disgyblaethau fel cerameg, tecstilau, dylunio graffig, argraffu, celfyddyd gain a deunyddiau 3D fel gwifren, plastr, gwneud gemwaith ayyb.

Mae'r Cwrs wedi'i gefnogi gan Brifysgol Celf, Llundain sydd ag enw da fel prifysgol o'r radd flaenaf ac a restrwyd yn 2il yn y byd ar gyfer Celf a Dylunio yn Safleoedd Prifysgol y Byd QS 2021.

Wrth astudio gyda ni byddwch yn cael defnyddio stiwdios arbenigol lle cewch eich annog i archwilio deunyddiau a thechnegau. Byddwch yn gallu defnyddio’r Parth Dysgu sy’n stocio ystod wych o gyfnodolion a llyfrau celfyddydau gweledol cyfredol yn ogystal â chael defnyddio cynnwys ar-lein a bydd hyn yn helpu i gefnogi eich dysgu a’ch datblygiad.

Bydd eich cwrs hefyd yn eich tywys i fyd celf a dylunio cyfoes a’r modd yr ydych chi’n ffitio fel rhan o hynny. Byddwch yn archwilio pwy ydych chi fel ymarferydd a sut mae eich gwaith yn ychwanegu at y naratif gweledol cyfredol.

Y Diploma Lefel 3 yw Blwyddyn gyntaf cwrs 2 Flynedd sydd wedi'i gynllunio i roi'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth angenrheidiol i chi symud ymlaen i astudio lefel gradd mewn celf a dylunio neu i gyflogaeth o fewn y Diwydiannau Creadigol. Mae cwblhau Blwyddyn 1 yn rhoi Diploma mewn Celf a Dylunio i chi ar Lefel 3 ac mae'n gyfwerth ag 1.5 Safon Uwch. Mae cwblhau Blwyddyn 2 yn rhoi Diploma Estynedig i chi mewn Celf a Dylunio ar Lefel 3 ac mae'n gyfwerth â 3 Safon Uwch.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Ar y cwrs hwn, bydd myfyrwyr yn astudio'r canlynol:

  • Paentio a Llunio
  • Print
  • Tecstilau
  • Cerameg
  • Sgiliau Stiwdio
  • Gwaith 3D/Gwneud gemwaith
  • Astudiaethau Cyd-destunol
  • Arfer Proffesiynol mewn Celf a Dylunio
  • Sgiliau hanfodol - Cymhwyso Rhif neu Gyfathrebu

Gofynion mynediad

5 TGAU A*-C, gan gynnwys Iaith Saesneg neu Fathemateg neu Ddiploma Lefel 2 yn y ddisgyblaeth hon ar radd Llwyddo neu uwch. Sylwer y gofynnir am waith portffolio yn ystod eich galwad sgrinio gychwynnol felly mae’n rhaid i chi gael y rhain yn barod cyn gwneud cais. Rhaid i bob portffolio gynnwys 10-12 delwedd o gynnwys sy’n gysylltiedig â’r cwrs.

Addysgu ac Asesu

  • Asesiadau parhaus yn cynnwys aseiniadau ysgrifenedig ac asesiadau ymarferol

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cod y cwrs

Cymhwyster

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Uchafbwynt y cwrs i mi oedd dysgu sut i wnïo a gallu archwilio’r holl themâu roeddwn yn dymuno eu defnyddio a chynhyrchu prosiect cowboi cwˆl. Ar ôl gadael y coleg, fy mwriad yw mynd i Brifysgol Brighton i astudio dylunio ffasiwn ac astudiaethau busnes, gyda’r gobaith o fynd ymlaen i fod yn berchennog siop. Rhoddodd y cwrs gyfle i mi ddod o hyd i fy arbenigedd, a gyda chefnogaeth y tiwtoriaid, roeddwn yn gallu dysgu a mireinio fy sgiliau. 

Caitlin Rees
Cyn-fyfyriwr Celf a Dylunio lefel 3 a Chelf a Dylunio - Sylfaenol lefel 4.

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

56,000

Y diwydiannau Creadigol yw un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf, gyda 56,000 o bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru.

Wedi cwblhau'r cwrs hwn, bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus y dewis o ychwanegu at eu cymhwyster i Diploma Estynedig BTEC mewn Celf, Crefft a Dylunio. Mae’r Coleg hefyd yn cynnig amrywiaeth o Raddau Sylfaen, wedi eu hachredu gan Brifysgol Fetropolitanaidd Caerdydd, sy'n golygu unwaith y byddwch wedi cwblhau eich cwrs, gallwch ddewis dychwelyd i'r coleg a chael cymhwyster Prifysgol yno, yn hytrach na mynd i’r Brifysgol. I gael gwybod mwy am ein detholiad o Raddau Sylfaen, dilynwch y ddolen: www.cavc.ac.uk/cy/he