Entrepreneuriaeth, Cyfoethogi a Chyflogadwyedd
Gyrfaoedd a Syniadau
...a mwy
Yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, rydyn ni eisiau eich paratoi chi gyda’r wybodaeth a’r sgiliau a fydd yn eich arwain i yrfa eich breuddwydion ac yn eich cefnogi i gyflawni eich potensial llawn. Byddwn yn eich helpu chi i ddatblygu dyfeisgarwch, creadigrwydd a hyder busnes a hefyd yn eich cefnogi drwy feithrin eich uchelgais, eich arloesi a’ch meddylfryd entrepreneuraidd. I wneud hyn, mae gennym ni tim Gyrfaoedd a Syniadau, sy’n darparu cyfleoedd Menter, Cyfoethogi a Chyflogadwyedd.
Entrepreneuriaeth
Rydyn ni yma i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid. Dyma gyfle i chi gael eich ysbrydoli gan eraill, dysgu am fyd busnes, datblygu eich syniadau ac fe allwn ni eich helpu chi i gymryd y cam cyntaf tuag at fod yn fos arnoch chi eich hun.
Rydyn ni’n cael cefnogaeth Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru, sy’n ceisio darparu cyfle i bob dysgwr ddatblygu ei sgiliau entrepreneuraidd.
Cliciwch ar y dolenni i ddarllen ein straeon newyddion: Syniad, UnLtd Do it for Real, Trading Places
Am ragor o wybodaeth ewch i: https://businesswales.gov.wales/bigideas/
Cyfoethogi
Mae cyfoethogi’n gyfle i chi gael hwyl wrth ddysgu. Cewch gymryd rhan mewn llawer o weithgareddau gwahanol fel clwb trafod, clwb cod, dawnsio, gweithgareddau awyr agored a llawer mwy.
Hefyd rydym yn trefnu llawer o ddigwyddiadau gwahanol sydd nid yn unig yn datblygu eich sgiliau cyflogadwyedd ond hefyd yn eich cyflwyno chi i arbenigwyr blaenllaw'r diwydiant.
Hefyd gall myfyrwyr gael cefnogaeth benodol i sefydlu clwb, cymdeithas neu brosiect. Yn y gorffennol mae’r myfyrwyr wedi arwain Clybiau Drama, Cymraeg, Iaith Arwyddion Prydain a Chod.
Cyflogadwyedd: gallu i sicrhau cyflogaeth
Bydd Cynghorwyr Cyflogadwyedd a Chynnydd CCAF yn eich cefnogi chi i feithrin y sgiliau hanfodol i sicrhau cyflogaeth. Bydd y tîm o Gynghorwyr yn cynnig y canlynol:
Cefnogaeth i chi i sicrhau profiad gwaith e.e.:
Lleoliad gwaith, ymweliadau diwydiant, heriau diwydiant, gweithdai dan arweiniad cyflogwyr a gweithgareddau eraill cysylltiedig â gwaith
Cefnogaeth i chi i feithrin sgiliau cyflogadwyedd
Cefnogaeth a gynigir ar sail 1:1 a thrwy ymweliadau dosbarth / grŵp
Cynnydd: cyfleoedd i gyrraedd eich nodau
Cefnogaeth i gynllunio eich gyrfa a’ch dewisiadau
Cefnogaeth i bontio’n hwylus i naill ai gwrs ar y lefel nesaf, i Addysg Uwch, i gyflogaeth, i Brentisiaeth neu i Gynllun Hyfforddi
Cefnogaeth a gynigir ar sail 1:1 a thrwy ymweliadau dosbarth
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch!
Cyflogadwyedd a Gwneud Cynnydd: Careers@cavc.ac.uk
Cyfoethogi a Entrepreneuriaeth: Ideas@cavc.ac.uk